Matthew 15:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei vesyn yn bwyta oedd pedeirmil o wyr, eb law gwragadd a’ phlant ys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai a fwyttasant oeddynt bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Ac wedi gollwng ymaith y torfeydd, yr aeth Efe i’r cwch, ac y daeth i gyffiniau Magadan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r bwytawyr oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y rhai oedd yn bwyta yn bedair mil o wu375?r, heblaw gwragedd a phlant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai a fwytasant oeddynt bedair mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant.