Matthew 15:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A chwi a ddywedwch, Pwy pynac a ddyweit wrth tad nei vam, Can y rhodd a offrymir geny vi, y daw lles yty: er, na’ s anrhydedda ef ei dad, nei vam, diuai vydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwychwi a ddywedwch, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd i Dduw yw pa beth bynnag y cawsit yn lles oddi wrthyf, nid yw, er dim i anrhydeddu ei dad;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dywedwch chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Offrwm yw hynny o fudd a gawsit gennyf i, nid yw i anrhydeddu ei dad neu ei fam;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed, ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw,’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr ydych chwi'n dweud, 'Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, "Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi", ni chaiff anrhydeddu ei dad.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynag y'th lesolir drwyddi oddiwrthyf fi, efe