Matthew 15:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vellyn y gwnaethoch ’orthymyn Dew yn over gan eich arddodiad chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dirymmwch air Duw o achos eich traddodiad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwnaethoch air Duw’n ddirym oherwydd eich traddodiad chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim rhaid ‛gofalu am dad‛ wedyn. Er mwyn cadw'ch traddodiad dych chi'n osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid anrhydedda ei dad. A chwi a wnaethoch air Duw yn ddirym o herwydd eich traddodiad.