Matthew 15:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nesau mae’r popul hynn ataf a’ ei genae, a’m anrhydeddy aei gwefusae, a’ ei calon ’sy ympell ywrthyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Y bobl hyn â’u gwefusau y’m hanrhydeddant, Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nesáu y mae'r bobl hyn ataf â'u genau, a'm hanrhydeddu â'u gwefusau; a'u calon sydd bell oddi wrthyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu 'u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y bobl hyn a'm hanrhydeddant â'u gwefusau, Ond eu calon sydd bell iawn oddiwrthyf;