Matthew 16:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YNo y deuth y Pharisaieit a’r Sadducaieit, ac y temptesant ef, gan geisiaw ganthaw ddangos yddyn arwydd o’r nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod Atto, y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, gan Ei demtio, a ofynasant Iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth y Phariseaid a’r Sadwceaid ato i’w brofi, a gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd, o’r nef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i'r Phariseaid a'r Sadwceaid ddyfod ato, a'i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Phariseaid a Sadwceaid at Iesu a gofyn iddo brofi pwy oedd drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y Phariseaid a'r Sadwceaid ato, ac i roi prawf arno gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Phariseaid a'r Saduceaid a ddaethant ato, a chan ei demtio hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.