Matthew 16:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ gwedy dyvot yr Iesu i dueðae Caisar Philip e a o vynnodd y’w ddiscipulon, Pwy y dywait dynyon vy‐bot i Map y dyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o’r Iesu i dueddau Cesarea Philippi, gofynodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y dywaid dynion fod Mab y Dyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i’r Iesu ddyfod i dueddau Cesarea Philippi, gofynnodd i’w ddisgyblion, “Pwy medd dynion yw Mab y dyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: "Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi dyfod yr Iesu i barthau Cesarea Philippi, efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw Mab y Dyn?