Matthew 16:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a ðywedesont Rei a ðywait mae Ioan vatyðiwr: a’ rei mae Helias ac eraill may Ieremias, ai vn or Prophwyti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddiwr yw; ac eraill, Elias; ac eraill, Ieremiah neu un o’r prophwydi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedasant hwythau, “Rhai Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill Ieremïas neu un o’r proffwydi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o'r proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant hwythau, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr; a rhai, mai Elias; ac ereill, mai Jeremiah, neu un o'r proffwydi.