Matthew 16:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi a ðywedaf hefyt yty, mae ti yw Petr, ac ar y petr hynn yr adailiaf veu Eccles: a’ phyrth yffern ny’s gorvyddant y hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr wyf Finnau hefyd yn dywedyd wrthyt ti, Tydi wyt Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf Fy eglwys I; a phyrth Hades ni orchfygant hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A minnau a ddywedaf wrthyt mai Pedr (Craig) wyt ti, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth Annwn ni orfydd arni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i'n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (y garreg). A dyma'r graig dw i'n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac 'rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf finau hefyd yn dywedyd i ti, Ti yw Petr; ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys, a phyrth Hades nis gorchfygant hi.