Matthew 16:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y‐ty y rhoddaf egoriadae teyrnas nefoedd, a’ pha beth bynac a rwymych ar y ddaear, a vydd rwymedic yn y nefoedd: a pha beth bynac a ellyngych ar y daear, a vydd gellyngedic yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ollyngech ar y ddaear, fydd wedi ei ollwng yn y nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhoddaf i ti allweddau teyrnas nefoedd, a pha beth bynnag a rwymych ar y ddaear, bydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, bydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti'n ei rwystro ar y ddaear wedi ei rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti'n ei ganiatáu ar y ddaear wedi ei ganiatáu yn y nefoedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddaf i ti agoriadau Teyrnas Nefoedd; a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rwymedig yn y Nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y Nefoedd.