Matthew 16:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gorchymynawdd ef y’w ddiscipulon, na ddywedent i nep mai efe oedd Iesu y Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y gorchymynodd i’r disgyblion na ddywedent wrth neb mai Efe yw’r Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna rhybuddiodd ei ddisgyblion na ddywedent wrth neb mai ef oedd y Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gorchmynnodd efe i'w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n rhybuddio ei ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y gorchymynodd efe i'w Ddysgyblion na ddywedent i neb mai efe yw y Crist.