Matthew 16:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O hyny allan y dechreawdd yr Iesu dangos y’w ddiscipulon, vot yn angen raid iddo vyned i Caerusalem, a’ dyoddef llawer gan yr Henafieit, a’ chan yr Archoffeiriait, a’r Gwyr‐llen a’ ei ladd, a’ chyfody y trydydd dydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid Iddo fyned ymaith i Ierwshalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac ar y trydydd dydd gyfodi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O hynny allan dechreuodd Iesu Grist ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Gaersalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi’r trydydd dydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i'w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde'n ofnadwy. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w Ddysgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Jerusalem, a dyoddef llawer oddiwrth yr Henuriaid a'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.