Matthew 16:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Petr ai cymerth ef or nailltuy, ac a ddechreawdd y geryddy ef, gan ddywedyt, Arglwydd, trugarha wrthyt tyun: ny ’s bydd hyn y‐ty.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef, gan ddywedyd, Trugarog fydded Wrthyt, Arglwydd; ni fydd hyn, er dim i Ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu, gan ddywedyd “Nawdd drosot, Arglwydd! Ni chaiff hyn byth fod i ti.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr, wedi ei gymryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun; ni bydd hyn i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw a'n gwaredo!” meddai, “Wnaiff y fath beth byth ddigwydd i ti, Arglwydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, "Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr, wedi ei gymmeryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Duw fyddo dosturiol wrthyt, Arglwydd: ni fydd hyn o gwbl i ti.