Matthew 16:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd ymchoelodd ef tra ch i gefyn, ac y dyvot wrth Petr, tynn ar v’ol i Satan: can ys rhwystr wyt ymy, can na ddyelly y pethae sy o Dduw, n amyn y pethae sy o ddynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn Fy ol I, Satan: tramgwydd wyt i Mi, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Troes yntau, a dywedodd wrth Bedr, “Dos yn fy ôl i, Satan; magl wyt i mi; canys nid ar bethau Duw y mae dy fryd, ond ar bethau dynion.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Pedr, Dos yn fy ôl i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos o'm golwg i Satan! Rwyt ti'n rhwystr i mi; rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, "Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos y tu ol i mi, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi, canys nid ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.