Matthew 16:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pa les i ddyn, er ennill yr oll vyt, a chyll ef y enait y hun? nei pa beth a rydd dyn yn gyfnewyt
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pa beth y lleseir dyn, os y byd oll a ennillodd efe, a’i fywyd wedi myned yn ddirwy iddo? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pa faint gwell fydd dyn, os ennill yr holl fyd, a’i golledu o’i fywyd? Neu, pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid? Oes unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pa leshad a fydd i ddyn os ennill efe yr holl fyd a fforfedu ei fywyd ei hun; neu pa beth a rydd dyn yn bridwerth am ei fywyd.