Matthew 16:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
dros ei Dat y gyd a’ ei Angelyon, ac yno y rhydd ef i bop dyn erwydd ei weithredoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y mae Mab y Dyn ar fedr dyfod yngogoniant Ei Dad ynghyda’i angylion; ac yna y tâl Efe i bob un yn ol ei weithred.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae Mab y dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, ac yna y tâl i bob un yn ôl ei ymddygiad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion gyda mi. Bydda i'n rhoi gwobr i bawb ar sail beth maen nhw wedi ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dl i bob un yn l ei ymddygiad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Mab y Dyn a ddaw yn ngogoniant ei Dâd gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bob un yn ol ei weithred.