Matthew 16:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir y dywedaf ychwi, vot rhei o’r sawl ’sy yn sefyll yma, ar ny chwaethant angae, nes yddyn welet Map y dyn yn dyvot yn ei deyrnas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau, nes gweled o honynt Fab y Dyn yn dyfod yn Ei deyrnas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas angau nes gweled Mab y dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma, a'r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Mab y Dyn yn dod i deyrnasu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, meddaf i chwi, y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu hyd oni welont Fab y Dyn yn dyfod yn ei Deyrnas.