Matthew 16:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r borae y dyvvedvvch, Heddiw y bydd tempest l, can vot yr wybr yn goch ac yn drist. A’ hypocriteit, wynep yr wybr a vedrwch i y varny, ac a ny vedrwch varny am arwyddion yr amserae?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r bore, Heddyw drycin, canys coch a phruddaidd yw’r nef. Gwyneb y nef, y gwyddoch pa sut i’w farnu, ond arwyddion yr amserau ni fedrwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn y bore ‘Heddiw drycin fydd, canys coch wgus yw’r awyr,’ Chwi ellwch ddirnad wyneb yr awyr, ond arwyddion yr amserau nis medrwch.]
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bore, Heddiw drycin; canys y mae'r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yna yn y bore, ‘Bydd hi'n stormus heddiw — mae'r awyr yn goch a'r cymylau'n ddu.’ Dych chi'n gwybod sut mae'r tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion sydd yma nawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn y bore, 'Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.' Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y boreu, Tywydd garw heddyw, canys y mae y nefoedd yn goch ac yn bruddaidd. Chwi a fedrwch ddeall gwyneb y nefoedd, ond arwyddion yr amseroedd ni fedrwch.]