Matthew 16:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Egais y genedleth drwc a’r odinabus arwydd, ac arwydd ny’s roddir iði n amyn arwyð, y Prophwyt Ionas: ac velly y gadawodd ef wy, ac y tynnawdd ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Iona. A chan eu gadael hwynt, yr aeth Efe ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd. Ionas.” A gadawodd hwynt ac aeth ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.” Yna gadawodd nhw a mynd i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona." A gadawodd hwy a mynd ymaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd Jonah. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.