Matthew 16:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a veddyliason ynddyn y vnain gan ddywedyt, Hyn sy am na ddyg e sam vara.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Bara ni ddygasom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymresyment hwythau yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, “Am na ddaethom ni â bara!”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad ei fod yn tynnu sylw at y ffaith eu bod heb fynd â bara gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, "Ni ddaethom bara."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara.