Matthew 16:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu yn gwybot y peth, a ddyvot wrthynt, Chwychwy o ffyð vechan, paam y meðyliwch ynoch eich hun, sef can na ðygesoch vara?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu, gan wybod hyn, a ddywedodd, Paham yr ymresymmwch yn eich plith eich hunain, y chwi o ychydig ffydd, am nad oes bara genych?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwybu’r Iesu, a dywedodd, “Paham yr ymresymwch yn eich plith eich hunain, rai bychain eu ffydd, am nad oes gennych fara?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei drafod, ac meddai, “Ble mae'ch ffydd chi? Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deallodd Iesu a dywedodd, "Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu yn gwybod a ddywedodd, O chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain fod hyn am na chymmerasoch fara?