Matthew 16:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anyd ych vvi yn dyall eto, nac yn cofio y pemp torth, pan oedd pem p mil popul, a’ phasawl basged eit a gymresoch?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid ydych etto yn deall, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Onid ydych yn deall eto, ac onid ydych yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi'n dal ddim yn deall? Ydych chi ddim yn cofio'r pum torth i fwydo'r pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi eu casglu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum' torth y pum' mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fyny?