Matthew 17:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr mi ddywedaf ychwi, ddyvot o Elias eisioes, ac na’s adnabuont vvy ef, a’ gwneuthyd o hanynt yddo beth bynac a vynesont: velly y bydd i Vap y dyn ddyoddef ganthwynt vvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedaf wrthych, Elias a ddaeth eisoes, ac nid adnabuant ef, eithr gwnaethant iddo gymmaint ag a ewyllysiasant. Felly y mae Mab y Dyn hefyd ar fedr dioddef ganddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond meddaf i chwi, fe ddaeth Elïas eisoes, ac nis adnabuant ef, eithr gwnaethant ag ef yr hyn a fynasant. Felly hefyd y mae Mab y dyn ar ddioddef ganddynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod eisoes, ond wnaethon nhw mo'i nabod, ac maen nhw wedi ei gam-drin. A bydda i, Mab y Dyn, yn dioddef yr un fath ganddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond 'rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, ond iddynt fethu ei adnabod, a gwneud iddo beth bynnag a fynnent; felly hefyd y mae Mab y Dyn yn mynd i ddioddef ar eu llaw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi ddyfod o Elias eisoes, ac nid ydynt wedi ei adnabod, ond a wnaethant iddo beth bynag a fynasant; felly y bydd hefyd i Fab y Dyn ddyoddef ganddynt.