Matthew 17:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Arglwydd, trugarha wrth vy map: can yvot ef yn lloeric, ac ydd ys yn ddrwc wrthaw: can ys mynech y cwymp ef yn tan, a’ mynech yn y dw f r.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn dywedyd, Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys lloerig yw, ac yn dioddef yn dost; canys mynych y syrth yn y tân, ac yn fynych yn y dwfr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedyd, “Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys y mae’n lloerig ac yn ddrwg ei gyflwr; mynych y syrth i’r tân, a mynych i’r dŵr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Arglwydd, helpa fy mab i,” meddai. “Mae'n cael ffitiau ac yn dioddef yn ofnadwy. Mae'n syrthio yn aml i ganol y tân, neu i ddŵr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Syr, tosturia wrth fy mab, oherwydd y mae'n dioddef o ffitiau ac yn dioddef yn enbyd, yn cwympo'n aml i'r tn ac yn aml i'r du373?r.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, canys masglwyfus ydyw, ac y mae yn glaf iawn, canys yn fynych y mae efe yn syrthio i'r tân, ac yn fynych i'r dwfr.