Matthew 17:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ymrythiodd geyr y bron wy, ac a dywynnodd y wynep ef val yr haul, a’ ei ddillat oedd mor gannaid a’r goleuni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwedd-newidiwyd Ef ger eu bron; a disgleiriodd Ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aethant yn wynion fel y goleuni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gweddnewidiwyd ef yn eu gwydd hwynt; a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aeth yn wyn fel y goleuni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned â'r goleuni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid — roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gweddnewidiwyd ef yn eu gu373?ydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a drawsffurfiwyd ger eu bron hwy; a'i wyneb a ddysglaeriodd fel yr haul, a'i ddillad a aethant cyn wyned â'r goleuni.