Matthew 17:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot wrthwynt, O bleit eich ancrediniaeth: can ys yn wir y dywedaf y chwi, pe bei y chwi ffydd cymeint ac yvv gronyn mwstard chvvi ddywedwch wrth y mynyth hwn, Ys y mud o dd yma draw, ac ef a ys y mut a: ac ny bydd dim am p ossibil ychwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, O achos eich ychydig ffydd: canys yn wir y dywedaf wrthych, Pe bai genych ffydd fel gronyn o had mwstard, dywedech wrth y mynydd hwn, Dos drosodd oddi yma accw, a myned trosodd a wnae; ac ni fyddai dim yn ammhosibl i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yntau wrthynt, “Oherwydd prinder eich ffydd; canys yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd fel hedyn mwstard, chwi ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw,’ ac fe symuda; ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi. ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ef wrthynt, "Am fod eich ffydd chwi mor wan. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd gymaint hedyn mwstard, fe ddywedwch wrth y mynydd hwn, 'Symud oddi yma draw', a symud a wna. Ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, O herwydd eich ychydig ffydd; canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai genych ffydd megys gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddiyma draw, ac efe a symmudai: ac ni fydd dim yn anmhossibl i chwi.