Matthew 17:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ey dyvot i Capernaum, yr ei oedd yn d erbyn arian y deyrnget, a ddaethant at Petr, ac a ddywedesont, Any’ d yw eich athro chvvi yn taly teyrnget?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o honynt i Caphernahwm, daeth y rhai oedd yn derbyn y ddau-ddrachma, at Petr, a dywedasant, Onid yw eich Athraw yn talu’r ddau-ddrachma? Dywedodd efe, Ydyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi eu dyfod i Gapernaum, daeth casglyddion y ddeuswllt at Bedr, a dywedasant, “Oni fydd eich athro’n talu’r ddeuswllt?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ddod i Gapernaum, daeth y rhai oedd yn casglu treth y deml at Pedr a gofyn, "Onid yw eich athro yn talu treth y deml?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi dyfod o honynt i Capernäum, y rhai oedd yn derbyn yr hanner‐sicl a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu yr hanner‐sicl?