Matthew 17:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a ddyvot, Ydyw. Ac wedy y ðyvot ef ir tuy, yr Iesu a ei rhac vlaenodd ef, gan ddywedyt, Beth a dyby gy di Simon? Y gan bwy y cymer Brenhinedd y ddaiar deyrnget, nei dreth? y gan ei plant, ai gan estronieit?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddaethai i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen ef, gan ddywedyd, Pa beth yw dy farn di, Shimon? Brenhinoedd y ddaear, gan bwy y derbyniant doll neu dreth? Gan eu meibion eu hun, neu gan estroniaid?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ef, “Bydd.” Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen gan ddywedyd, “Beth a debygi di, Simon? Gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear drethi neu deyrnged? Ai gan eu meibion, ai gan estroniaid?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydy, mae e” atebodd Pedr. Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi — gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ydyw," meddai Pedr. Pan aeth i'r tu375?, achubodd Iesu'r blaen arno trwy ofyn, "Simon, beth yw dy farn di? Gan bwy y mae brenhinoedd y byd yn derbyn tollau a threthi? Ai gan eu dinasyddion eu hunain ynteu gan estroniaid?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yntau a ddywed, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r ty, yr Iesu a'i rhagflaenodd ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? Breninodd y ddaear, oddiwrth bwy y cymmerant drethi neu deyrnged? oddiwrth eu meibion eu hunain ynte oddiwrth estroniaid?