Matthew 17:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny, rac y ni y rhwystro hwy, does ir mor, a’ bwrw vach, a’ chymer y pysc otyn cyntaf a ddel i vyny dd, ac wedy yt’ agory ei eneu, ti a gai ddarn o vgein ceinioc: cymer hynny a’ dyro droso vi a’ thi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond fel na pharom dramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach; a’r pysgodyn a ddaw i fynu yn gyntaf, coda ef; ac wedi agoryd ei safn, cei stater: hwnw cymmer, a dyro iddynt Drosof Fi a thi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny, ac wedi agor ei enau ti gei ddarn pedwar swllt; cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof i a thithau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i'r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu. Defnyddia hwnnw i dalu'r dreth drosto i a thithau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos at y mr a bwrw fachyn iddo, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny. Agor ei geg ac fe gei ddarn arian. Cymer hwnnw a rho ef iddynt drosof fi a thithau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er hyny, rhag i ni achosi tramgwydd iddynt, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddel i fyny yn gyntaf: ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei sicl, hwnw cymmer, a dyro iddynt drosof fi a thithau.