Matthew 17:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef eto yn ymadrodd, nycha wybren olau yn ei gwascodi hwy: nycha, lef o’r wybren yn dywedyt, Hwn yw vy‐caredic Vap, yn yr hwn im boðolonit: clywch ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a’u cysgododd hwynt: ac wele, llais o’r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab anwyl yn yr Hwn y’m boddlonwyd: Arno Ef gwrandewch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yntau eto’n llefaru, dyna gwmwl golau yn eu cysgodi hwynt, a dyma lef o’r cwmwl yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab annwyl a ryngodd fy modd; gwrandewch arno ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a'u cysgododd hwynt: ac wele, lef o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd: gwrandewch arno ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr. Gwrandwch arno!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, "Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thra yr oedd efe yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a'u cysgododd hwynt; ac wele lef o'r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw fy Anwyl Fab, Yn yr hwn y'm boddlonwyd: Gwrandewch arno ef.