Matthew 17:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ mal y descendent o’r mynyth, y gorchymynawdd yr Iesu yddyn gan ddywedyt, Na ddywedwch y weledigaeth i nep, yn y chyvoto Map y dyn o veirw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth ddisgyn o honynt o’r mynydd, gorchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth wrth neb, hyd oni fo Mab y Dyn wedi adgyfodi o feirw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, “Na ddywedwch i neb y weledigaeth hyd oni chyfodo Mab y dyn o feirw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn disgyn o'r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi ei weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddynt, "Peidiwch dweud wrth neb am y weledigaeth nes y bydd Mab y Dyn wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered allan o'r mynydd, yr Iesu a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb hyd oni chyfodir Mab y Dyn oddiwrth y meirw.