Matthew 18:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwelwch na thremygoch yr vn o’r ei bychein hynn: canys dywedaf y chwi, pan yw yn y nefoeð vot y Aggelō wy bop amser yn gwelet wynep vy‐Tat yr hwn ys y yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn, canys dywedaf wrthych, Eu hangylion yn y nefoedd bob amser a welant wyneb Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Pa beth yw eich barn chwi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyliwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn; canys meddaf i chwi, y mae eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o'r rhai bychain hyn; oherwydd 'rwy'n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Edrychwch na ddirmygoch un o'r rhai bychain hyn, canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod eu hangylion hwy yn y Nefoedd bob amser yn syllu ar wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.