Matthew 18:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth a dybiwch vvi? A’s bydd ei i ddyn gan davat, a’ myned o vn o hanynt ar ddisperot, a ny ad ef y n amyn vn pem p ugain, a’ myned ir mynydde dd a’ cheisio yr hon aethesei ar ddysperot?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os bydd gan ryw ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar gyfeiliorn, onid, gan adael y cant namyn un, i’r mynyddoedd yr aiff, a cheisio yr hon a aeth ar gyfeiliorn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth a debygwch chwi? Os bydd i ryw ddyn gant o ddefaid a chrwydro o un ohonynt, oni edy ef y cant namyn un ar y mynyddoedd a myned i geisio’r grwydredig?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio'r hon a aeth ar ddisberod?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth yw eich barn chwi? Os bydd gan rywun gant o ddefaid a bod un ohonynt yn mynd ar grwydr, oni fydd yn gadael y naw deg a naw ar y mynyddoedd ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar grwydr?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth dybiwch chwi? O bydd i unrhyw ddyn gant o ddefaid, a chrwydro o un o honynt, oni âd efe y naw deg a naw ar y mynyddoedd, a myned a cheisio yr hon a grwydrasai?