Matthew 18:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s byð yddo y chael hi, yn wir y dywedaf y‐chwi, mae mwy llawen yw ganthaw am y ddavat hono, nag am y n amyn vn pem p vcain nyd aethent ar ddispirot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os bydd ei chael ganddo, yn wir meddaf i chwi, llawenycha drosti mwy na thros y cant namyn un y rhai nid aethent ar gyfeiliorn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, mwy y llawenycha am honno nag am y cant namyn un nad oeddent ar grwydr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os daw o hyd iddi, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae'n llawenhau mwy amdani nag am y naw deg a naw nad aethant ar grwydr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am hono yn fwy nag am y naw deg a naw y rhai ni chrwydrasant.