Matthew 18:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eb law hyny a’s pecha dy vrawt ith erbyn, does, a’ cherydda ef ryngot ac ef wrth y vn: a’s ef ath wrendy, enilleist dy vrawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os pechu yn dy erbyn a wna dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ar ei ben ei hun. Os arnat y gwrandawo, ynnillaist dy frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os pecha dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os gwrendy arnat, enillaist dy frawd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad gydag e am y peth wyneb yn wyneb — paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os pecha dy frawd, dos, a dwg ef i gyfrif rhyngot ti ac ef ei hun; os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd.