Matthew 18:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac as ef ni’th wrendy, cymer gyd a thi eto vn nei ðau, val y bo gan enae dau nei dri o testion ally sefyll o bop gair.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os na wrandawo, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel yngenau dau neu dri o dystion y sefydler pob gair.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac oni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau dyst neu dri y safo pob gair;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os efe ni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, achos ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os na fydd yn gwrando, cymer gyda thi un neu ddau arall, er mwyn i bob peth sefyll ar air dau neu dri o dystion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr os efe ni wrendy, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel wrth enau dau neu dri o dystion y byddo safadwy bob gair