Matthew 18:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s ef ny bydd gwiw gantaw eu gwrandaw, dywait wrth yr Eccleis: ac a’s ef ny vynn wrandaw ’r Eccleis chwaith, bit ef y‐ty megis Cenedlic a Phublican.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os esgeulusa wrando arnynt, dywaid wrth yr eglwys; ac os ar yr eglwys yr esgeulusa wrando, bydded i ti fel yr ethnig a’r treth-gymmerwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac os diystyra hwynt, dywed wrth yr eglwys; ac os diystyra’r eglwys hefyd, boed ef i ti megis y cenedl-ddyn a’r trethwr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a'r publican.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd yn gwrthod gwrando arnynt hwy, dywed wrth yr eglwys; ac os bydd yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, cyfrifa ef fel un o'r Cenhedloedd a'r casglwr trethi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys; ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded i ti fel y Cenedlddyn neu y Trethgasglwr.