Matthew 18:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trachefyn, yn vvir y dywedaf wrthych, a’s cydsynnia dau o hanoch yn y ddaiar ar ddim oll, beth bynac ar a archant, y rhoðir yðynt y gan vy‐Tat yr hwn ’sy yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Etto y dywedaf wrthych, Os dau o honoch a gydsyniant ar y ddaear am neb rhyw beth a ofynant, bydd efe iddynt gan Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Drachefn yn wir meddaf i chwi, os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear ar ddim oll a’r a ofynnont, fe ddaw iddynt oddi wrth fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a'r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thrachefn 'rwy'n dweud wrthych, os bydd dau ohonoch yn cytuno ar y ddaear i ofyn am unrhyw beth, fe'i rhoddir iddynt gan fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thrachefn meddaf i chwi, Os cytuna dau o honoch ar y ddaear yn nghylch unrhyw fater am yr hwn y gofynant, efe a roddir iddynt oddiwrth fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.