Matthew 18:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ym p le pynac ydd ymgynnull dau n’ei dri, yn vy Enw i, yno ydd wyf yn ei cenol wy. Yr Euangel y xxij. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn Fy enw I, yno yr wyf yn eu canol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr wyf yn eu canol.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw I, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.