Matthew 18:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny y cyffelypir teyrnas nefoedd i ryw Frenhin, pwy vynnei gael cyfrif can ei weision.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a ewyllysiodd gymmeryd cyfrif gyda’i weision.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd gŵr o frenin, a benderfynodd wneuthur cyfrif gyda’i weision.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu — mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a fynai wneuthur cyfrif â'i weision.