Matthew 18:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chā nad oeð ganto ddim oei daly, e ’orchymynawdd ei Arglwydd y werthy ef, a’ ei wreic, a’ ei blant, ac oll a veddei, a’ thaly yr ddlet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe heb ganddo fodd i dalu, archodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a’r cwbl o’r a feddai, a thalu’r ddyled.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan nad oedd ganddo fodd i dalu, gorchmynnodd yr arglwydd ei nerthu ef a’i wraig a’i blant a chwbl a feddai, i doddi’r ddyled.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddai, a thalu'r ddyled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd 'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a'r hyn oll a feddai, a chael ei dalu.