Matthew 18:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r gwas a gwympawdd i lawr, ac atolygawdd iddaw, can ddywedyt, Arglwydd, oeda dy ddigoveint wrthyf, a’ thalaf y‐ty y cvvbl oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi syrthio i lawr, gan hyny, y gwas a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a’r cwbl a dalaf i ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna syrthiodd y gwas a phenlinio iddo, gan ddywedyd, ‘Bydd ymarhous wrthyf, ac mi dalaf y cwbl i ti.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti'r cwbl oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen ei feistr a dweud, 'Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf y cwbl iti.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y gwas, gan hyny, a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.