Matthew 18:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy myned y gwas ymaith, e gavas vn oe gyveillion, yr hwn oedd yn y ddlet ef o gant ceiniawc, ac a ymavlawdd yntaw ac ei llindagawdd, gan ddywedyt, Tal i mi dy ddlet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan, y gwas hwnw a gafodd un o’i gydweision, yr hwn yr oedd arno iddo gàn denar; ac wedi ymaflyd ynddo, llindagodd ef, gan ddywedyd, Tâl, os oes arnat ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aeth y gwas hwnnw allan, a chafodd un o’i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gan swllt, a gafaelodd ynddo, a’i lindagu gan ddywedyd ‘Tâl dy ddyled.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y gwas hwnnw allan a daeth o hyd i un o'i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gant o ddarnau arian; ymaflodd ynddo gerfydd ei wddf gan ddweud, 'Tl dy ddyled.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y gwas hwnw a aeth allan, ac a ddaeth o hyd i un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn denarion, ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl yr hyn sydd ddyledus arnat.