Matthew 18:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ðyvot, Yn wir y dywedaf wrthych, a ddieithyr eich ymchwelyt, a’ bot mal bachenot nid ewch i deyrnas nefoeð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Os na’ch troer a myned fel plant bychain, nid ewch i mewn er dim i deyrnas nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, oddieithr eich troi a dyfod fel plant, nid ewch ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr i chwi droi a dyfod fel plant bychain, nid ewch chwi o gwbl i fewn i Deyrnas Nefoedd.