Matthew 18:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny’s gwnai ef, anyd myned a’ ei vwrw ef yn‐carchar, y ’n y dalei yr ðlet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe ni fynai; eithr, wedi myned ymaith, bwriodd ef yngharchar hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. Gan weled, gan hyny, o’i gydweision y pethau a wnelsid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ni fynnai, eithr aeth a bwriodd ef i garchar hyd oni thalai’r ddyled.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nis gwnâi efe; ond myned a'i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a cafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwrthododd; yn hytrach fe aeth a'i fwrw i garchar hyd nes y talai'r ddyled.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr nis mynai efe; eithr gan fyned ymaith, efe a'i bwriodd ef i garchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.