Matthew 18:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weles ei gyveillion ereill y pethau a ddaroedd, ydd oedd yn ddrwc dros pen ganthwynt, ac a ddeuthant, ac a vanegesant y ew h’ arglwydd yr oll pethae a ddarvesynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
poenwyd hwynt yn ddirfawr: ac wedi myned, mynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a wnelsid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna pan welodd ei gydweision yr hyn a ddigwyddasai, bu ddrwg dros ben ganddynt, ac aethant i hysbysu i’w harglwydd y cwbl a ddigwyddasai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd ei gydweision beth oedd wedi digwydd, fe'u blinwyd yn fawr iawn, ac aethant ac adrodd yr holl hanes wrth eu meistr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, pan welodd ei gydweision y pethau a wnaethpwyd, bu ddrwg dros ben ganddynt; a hwy a ddaethant ac a eglurasant i'w harglwydd eu hunain yr hyn oll a ddygwyddasai.