Matthew 18:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llitiaw a wnaeth ei Arglwydd, ac ei rhoddes ef ir poenwyr, y’n y dalei ei holl ddylet iddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi digio, ei arglwydd a’i traddododd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr oll oedd ddyledus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’i arglwydd yn ei lid a’i traddododd i’r arteithwyr hyd oni thalai’r cwbl o’i ddyled.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddodd ef i'r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd y brenin yn gandryll, felly gorchmynnodd daflu'r swyddog i'r carchar i gael ei arteithio, nes iddo dalu'r cwbl o'r ddyled yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn ei ddicter traddododd ei feistr ef i'r poenydwyr hyd nes y talai'r ddyled yn llawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i traddododd ef i'r poenydwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus.