Matthew 18:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy bynac a rwystro vn or ei bychein hynn a credant yno vi, gwell oedd, iddaw pe crogit maē melin am ei vwnwgl, a’ ei voddy yn eigiawn y mor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi a dderbyn efe: a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sy’n credu Ynof, da fyddai iddo, pe crogid maen melin mawr am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond pwy bynnag a baro rwystr i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof i, fe dalai iddo fod maen melin mawr wedi ei grogi am ei wddf a’i foddi yn eigion y môr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi ei rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond pwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf a'i foddi yn eigion y mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, buddiol ydyw iddo i faen mawr melin gael ei grogi am ei wddf a'i suddo yn eigion y môr.