Matthew 18:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae’r byt o bleit rhwystrae: can ys angenreit yw dewot rhwystrae: er hyny gwae’r dyn hwnw. y gan yr vn yd ef y rhwystr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae’r byd oblegid tramgwyddau; canys angenrhaid yw dyfod tramgwyddau; ond gwae’r dyn hwnw, trwy’r hwn y mae’r tramgwydd yn dyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae’r byd o achos rhwystrau; canys rhaid dyfod rhwystrau, eithr gwae’r dyn y daw’r rhwystr drwyddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae'r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae'r dyn hwnnw drwy'r hwn y daw'r rhwystr!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae'r byd oherwydd achosion cwymp; y maent yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol am achos cwymp.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae y byd o herwydd rhwystrau, canys angenrhaid yw i'r rhwystrau ddyfod; er hyny, gwae y dyn drwy yr hwn y mae y rhwystr yn dyfod.