Matthew 18:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny a’s dy law n ai dy droet ath rhwystra, tor wy ymaith, a’ thavl y wrthyt: gwell yw yty vynet i vywyt, yn gloff, ai yn anafus, nath tavly ac yty ddwy law, a’ dau droet i dan tragavythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os dy law neu dy droed a bair dramgwydd i ti, tor ef ymaith, a thafi oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus neu yn gloff, nag a dwylaw neu ddau droed genyt, dy daflu i’r tân tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith a thafl oddi wrthyt; gwell i ti yw myned i mewn i’r bywyd yn anafus neu’n gloff nag â dwy law neu ddau droed gennyt dy daflu i’r tân tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw dy law neu dy droed yn achos cwymp i ti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus neu'n gloff, na chael dy daflu, a dwy law neu ddau droed gennyt, i'r tn tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dy law neu dy droed a'th rwystra, tòr hi ymaith, a thafl oddiwrthyt: da i ti fyned i fewn i'r bywyd yn gloff neu yn anafus nag â chenyt ddwy law neu ddwy droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.