Matthew 18:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s dy lygat ath rwystra, tynn allan, a’ thavl y wrthyt: gwell yw yty vynet i vywyt ac vn llygat, na’c a dau lygat, dy davly i dan yffern.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os dy lygad a bair dramgwydd, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad genyt dy daflu i’r Gehenna tanllyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt; gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn unllygeidiog nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân Gehenna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os yw dy lygad yn achos cwymp i ti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i dn uffern.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt: gwell i ti yn un‐llygeidiog fyned i fewn i'r bywyd nag â dau lygad genyt dy daflu i'r Gehenna o dân.